Fe agorwyd yr adeilad ym 1905 gan Syr Richard Williams-Bulkeley, Arglwydd Raglaw Sir Fon. Adeiladwyd Neuadd Prichard Jones a’r chwe bwthyn gan Hugh Hughes, adeiladwr lleol ym 1902-1905 yn unol a chynllun y pensaer Rowland Lloyd o Gaernarfon ac ar gost o £19000. Syniad Syr John Prichard Jones oedd y fenter ac ef dalodd y cyfan o’r costau. Ei fwriad oedd creu canolfan addysgiadol gyda llyfrgell ac ystafelloedd pwyllgoarau er mwyn rhoi gwell cyfleoedd ac addysg i pobl y gymmuned. Gwenyddi’r yr Institiwt gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr ac mae’n Elusen Cofrestredig ( Rhif yr Elusen 1117325-1).
Mae’r adeiladau yn rhai rhestredig gradd 2.
Ymddangosodd yr Institiwt ar y rhaglen “Restoration” y BBC yn 2006 ac er na enillodd y gystadleuaeth derbynwyd nawdd yn 2008-2009 gan Menter Mon, Cyngor Ynys Mon a Chynulliad Cymru i adnewyddu’r adeilad yn gyfangwb.
Mae 11 ystafell yn yr Institiwt yn gallu cynnal rhwng ugain a chant o bobl. Ar y llawr isaf mae’r Hen Lyfrgell Hanesyddol ac wrth ei hochr Ystafell Rhosyr. Yn ystafell Rhosyr mae’r creiriau a ddarganfuwyd wrth gloddio Llys Rhosyr yn cael eu arddangos. Mae yno hefyd arddangosfa yn dweud hanes De Orllewin Mon yn y canol oesoedd ar adeg y Tywysogion Cymreig.
Ar y llawr yma hefyd mae llyfrgell gyfoes yn agored fore Llun, prynhawn Mercher a phrynhawn Gwener. Mae yno hefyd Ystafell De Rhosyr yn agored yn ddyddiol o 10 y.b. hyd 4 y.p..Gwerthi’r yno luniaeth ysgafn ac mae’r fwydlen ar gael pe bod angen hyny.
Mae bosibl iddynt ddarparu bwyd ar gyfer cynghadleddau, priodasau, partion, angladdau a.y.y.b Mae lle i fyny i 40 fwyta. Mae toiledau ar y llawr yma a’r llawr cyntaf. Nid oes dim anhawsterau i’r anabl.
Ar y llawr cyntaf mae ystafell ymgynull a lle i gant o bobl. Mae ar y llawr yma hefyd bedair ystafell addas ar gyfer cyfarfodydd llai neu fel swyddi. Mae mynediad band llydan i’r rhyngrwyd ac mae cyflusterau ar gyfer taflunio digidol.
Adeiladwyd y chwe bwthyn yn 1905 ac mae’nt yn cynnwys ystafell fyw, ystafell gysgu ddwbl, cegin, toiled a ystafell ymolchi. Mae’nt yn cael eu cynhesu a gwres canolog. Mae’nt ar gael ar rent pan y bddant yn dod yn wagi.
Yr oedd y cae ar draws y ffordd i’r Institiwt ar un adeg yn chwe gardd ar gyfer y bythynnod ond yn y saithdegau cynnar darparwyd gae i plant chwarae. Yn ddiweddar mae’r maes chwarae wedi ei adnewyddu gan Parc y Plant ac yn cael ei reoli ganddynt.
Mae lle i barcio i 25 o gerbydau ar y safle ac mae maes pario cyhoeddus tua 100 metr i ffwrdd.
Gellir trefnu ymweliadau tywysedig i ymwelwyr o gwmpas yr adeilad hanesyddol.
Lleolir yr Institiwt ar Stryd Pendref, Niwbwrch, Ynys Mon. Mae pentref ar groesffordd yr A4080 a B4419. Mae pentref tua 10 milltir o Ddinas Bangor a’r Brifysgol a tua 8 milltir o Dref Farchnadol Llangefni.
Mae gwasanaeth bws rhwng y ddau le pob tua awr. Mae’r orsaf dren agosaf ym Mangor ac mae gwasanaeth hedfan o’r Fali i Gaerdydd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.